Cadwch eich cofnod yn gyfredol

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru eich cofnod ar y Gofrestr Rhanddeiliaid er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael gwybod am y pethau sy’n bwysig i chi a bod ymgynghori â chi yn eu cylch.  Gallwch wneud hyn drwy gwblhau'r camau canlynol:

  1. Mewngofnodi i’ch Cofrestr Rhanddeiliaid a ‘Fy Nghyfrif’ gan ddefnyddio eich manylion ar gyfer Sign on Cymru (SOC)
  2. Clicio ar y botwm ‘Golygu cofnod’.
  3. Ar ôl clicio ar y botwm ‘Golygu cofnod’ gallwch wneud y canlynol:
    • Diweddaru eich manylion cyswllt
    • Diweddaru eich manylion personol
    • Diweddaru'r pynciau rydych eisiau i ni ymgynghori â chi yn eu cylch
    • Diweddaru cofnod eich sefydliad os ydych chi wedi cofrestru fel rhan o sefydliad
  4. Cofiwch glicio ar ‘cadw’ ar ôl gwneud unrhyw newidiadau i’ch cofnod ar y Gofrestr.


Rheolau archifo'r Gofrestr Rhanddeiliaid

Er mwyn sicrhau bod y Gofrestr Rhanddeiliaid yn cael ei diweddaru’n gyson, rydym wedi gweithredu’r rheol archifo ganlynol:

  • bydd cofnod ar y Gofrestr Rhanddeiliaid yn cael ei archifo os nad yw perchennog y cofnod wedi mewngofnodi i’r Gofrestr Rhanddeiliaid am gyfnod o 12 mis
  • ar ôl archifo cofnod, bydd rhaid i berchennog y cofnod fewngofnodi i'r Gofrestr Rhanddeiliaid gan ddefnyddio ei fanylion SOC, er mwyn ailweithredu ei gofnod

Hysbysiadau archifo

Byddwn yn anfon hysbysiadau at berchennog y cofnod ar ôl yr amseroedd canlynol:

  • ar ôl 9 mis o anweithgarwch
  • ar ôl 11 mis o anweithgarwch
  • 7 diwrnod cyn archifo