Cwestiynau Cyffredin

Mae’r Gofrestr Rhanddeiliaid wedi’i chreu er mwyn rhoi'r cyfle i chi ddweud yn union wrthym beth yr hoffech i ni ymgynghori â chi yn ei gylch.  Mae’r gofrestr yn caniatáu i chi ddewis y pynciau sydd o ddiddordeb i chi, ac yna bydd cydweithwyr Llywodraeth Cymru yn gallu cysylltu â chi ynghylch y pynciau hynny.

I greu eich cyfrif yn y Gofrestr Rhanddeiliaid mae angen i chi glicio ar ‘Mewngofnodi gyda Sign on Cymru (SOC)’ ar frig y dudalen ar y dde.

Os oes cyfrif SOC gennych yn barod, byddwch angen mewngofnodi gyda’ch manylion SOC. Yna, cewch eich hailgyfeirio i’r Gofrestr Rhanddeiliaid.

Os ydych angen creu cyfrif SOC newydd, cliciwch ar ‘Cofrestrwch yn awr’ a bydd angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair. Byddwch wedyn yn gallu defnyddio eich manylion i gael mynediad at wasanaethau eraill fel y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a’r System Cyfrifon Busnes (BAS)

Pan fyddwch wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost a derbyn eich cod dilysu, byddwch angen creu cyfrinair. Wedyn, dewch eich hailgyfeirio’n ôl i’r Cofrestr Rhanddeiliad ac ni fyddwch angen mewngofnodi eto.

Yn awr, rydych angen creu eich cofnod. Cliciwch ar ‘Dechrau’ a nodwch y canlynol:

  • Eich manylion cyswllt
  • Eich manylion personol
  • pynciau rydych am gael eich ymgynghori arnynt
  • Nodwch fanylion eich sefydliad os ydych yn cofrestru fel aelod o sefydliad

Os ydych am fod yn gysylltiedig â sefydliad bydd angen caniatâd cyn i’ch cais gael ei gyhoeddi. 

Caiff yr wybodaeth hon ei storio’n ganolog, felly ni fydd rhaid i chi roi eich manylion personol eto os ydych yn dymuno cael mynediad at BOSS, BAS nag unrhyw wasanaeth arall a fydd yn defnyddio SOC yn y dyfodol.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ac os bydd angen i chi newid unrhyw wybodaeth, gallwch glicio ‘Golygu cofnod’

Mae pawb sydd â diddordeb mewn ymgynghoriadau, polisïau a chyfathrebu Llywodraeth Cymru yn gymwys.