Hysbysiad Preifatrwydd
Trosolwg
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych naill ai dros y ffôn, yn bersonol neu wrth ddefnyddio gwasanaethau ar y wefan.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol i warchod preifatrwydd yr holl ddata personol a data busnes a ddarperwch chi neu gynrychiolydd o’ch busnes wrth ddefnyddio gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro pa wybodaeth a allwn gasglu gennych ac at ba ddibenion y caiff ei defnyddio. Trwy ddefnyddio gwasanaethau cymorth gwybodaeth busnes Llywodraeth Cymru, rydych yn cytuno i’r arferion data a ddisgrifir yn y polisi hwn.
Dim ond gyda’ch caniatâd fydd Llywodraeth Cymru’n casglu data personol a data busnes gennych, er enghraifft os byddwch yn cysylltu â Llinell Gymorth Busnes Cymru, yn defnyddio rhwydwaith cymorth Busnes Cymru, yn cofrestru neu’n llenwi ffurflenni ar-lein Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw ddata personol na data busnes yn cael ei gasglu gennych heb i chi fod yn gwybod hynny.
Newidiadau i’r polisi hwn
Fe allai Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn unrhyw dro. Nodir y newidiadau hyn yma a byddant yn weithredol ar unwaith. Mae adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn golygu eich bod wastad yn ymwybodol o’r wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru’n ei chasglu, sut y bydd yn cael ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os digwydd hynny, y caiff unrhyw wybodaeth ei rhannu gydag eraill.
Pa wybodaeth a gesglir gennym ac at ba ddibenion?
Yn ddibynnol ar y gwasanaeth gwybodaeth neu gymorth a ddefnyddir gennych, gellid gofyn i chi ddarparu gwybodaeth, neu fe allem gasglu gwybodaeth gennych yn unol â’r eglurhad isod.
Eich Gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i ni. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth sydd gennym ni, gan gynnwys unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni, os cawn gais rhyddid gwybodaeth. Os gofynnir i ni roi unrhyw wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi, byddwn fel arfer yn ymgynghori â chi er mwyn gweld pa niwed, os o gwbl, fyddai'n cael ei achosi o ddatgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd.
Oni nodir fel arall yn y Polisi Preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ag unrhyw drydydd parti, oni bai am yr amgylchiadau canlynol:
- bod dyletswydd arnom ni i ddatgelu neu rannu'r wybodaeth er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol (e.e. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000);
- er mwyn gorfodi neu weithredu ein Telerau Defnyddiwr ac unrhyw gytundebau perthnasol eraill;
- i warchod hawliau, eiddo neu ddiogelwch eraill;
- os byddwn yn rhoi neu'n trosglwyddo'r gwaith allanol o rheoli a/neu weithredu'r Wefan hon neu rannau ohoni i drydydd parti, i alluogi'r trydydd parti hwnnw i barhau i ddarparu mynediad i chi i'r Wefan neu i unrhyw un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Wefan.
Gwybodaeth a ddarperir gennych chi i ni
Bydd Llywodraeth Cymru’n casglu ac yn prosesu data a ddarperir gennych chi at ddibenion penodol. Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch chi eich hun pan fyddwch yn defnyddio rhai gwasanaethau cymorth penodol, er mwyn cwblhau eich cais neu ein trafodion â chi. Fe allai gynnwys gwybodaeth bersonol megis eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn. Byddwn yn defnyddio’r data hwn i ddarparu’r wybodaeth, y cynhyrchion neu’r gwasanaethau y gofynnwch amdanynt. Fe allem fod yn cadw cofnod o unrhyw gysylltiadau rhyngom. Fe allem ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion cadw cofnodion, neu at ddibenion ystadegol, ymchwil neu ansawdd.
Byddwn ond yn cadw’r wybodaeth hon pan fydd gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny; am y cyfnod angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdanynt gennych (yn cynnwys unrhyw gyfnod cadw cyfreithiol neu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.
O bosib, gwnawn ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i gynnig gwasanaethau lleol neu bersonol i chi, i’ch hysbysu o newidiadau i’n gwasanaeth, i ofyn eich barn ac i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau.
Er mwyn darparu’r wybodaeth, y cynhyrchion neu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt gennych, byddwn yn rhannu eich data yn ôl y gofyn gyda chyrff eraill - er enghraifft gyda sefydliad dosbarthu cyhoeddiadau os byddwch yn archebu cyhoeddiad, neu gyda sefydliad cymorth busnes lleol os ydych yn gofyn am gyswllt neu gymorth lleol, neu gyda’r adran, asiantaeth neu awdurdod llywodraeth perthnasol er mwyn cwblhau cais neu drafodyn.
Mae gennych yr hawl i ofyn am gael gwared â’ch gwybodaeth o’n cofnodion, am weld unrhyw wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru amdanoch, ac i gywiro unrhyw anghywirdebau.
Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw un arall at unrhyw ddibenion eraill oni fydd angen cyfreithiol i ni wneud hynny.
Preifatrwydd a chwcis
Polisi preifatrwydd www.busnes.cymru.gov.uk
Ein nod yw sicrhau ein bod yn cadw at bolisi preifatrwydd cadarn. Dim ond at y dibenion canlynol yr ydym yn casglu gwybodaeth:
• i’n helpu ni i wneud y wefan i weithio’n well i chi
• i ni fedru cysylltu â chi pan fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny
• i’n galluogi ni i’ch hysbysu chi o’r newidiadau perthnasol i gymorth busnes os ydych wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau
• i’n galluogi ni i roi gwybodaeth leol gywir pan fyddwch ei hangen
• i ni ddeall sut mae pobl yn defnyddio’r safle, er mwyn i ni fedru ei wella’n gyson
Yr wybodaeth a gesglir gennym
Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan bobl sy’n ymweld â’r wefan:
• y cwestiynau, yr ymholiadau a’r adborth a adewir gan bobl, yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn anfon e-bost atom
• manylion personol a busnes cryno (eich enw chi, enw eich busnes, cyfeiriad e-bost a rhanbarth • cyfeiriadau IP ymwelwyr, a manylion y porwr a ddefnyddiwyd ganddynt
• gwybodaeth o’r modd y bydd pobl yn defnyddio’r safle, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau
Os byddwch yn anfon adborth atom, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges.
Mwy am cwcis
Mae www.busnes.cymru.gov.uk yn defnyddio ffeiliau data bychain sydd wedi eu storio ar eich cyfrifiadur a elwir yn ‘cwcis’. Mae’r rhan fwyaf o wefannau mawr yn gwneud hyn. Maent yn ein helpu ni i wella eich profiad chi o’n gwefan. Darllenwch at ba ddibenion y byddwn yn eu defnyddio, a sut i reoli eu defnydd ar ein tudalen cwcis
Sut fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Defnyddir unrhyw wybodaeth a gasglwn i:
• wella cynnwys a chynllun y wefan
• cysylltu â chi (gyda’ch caniatâd) i ymateb i adborth
• cysylltu â chi drwy’n cylchlythyrau i anfon gwybodaeth atoch am gymorth posibl i’ch busnes, a newyddion sy’n gysylltiedig â hynny
Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda chyrff eraill at ddibenion masnachol, marchnata nag ymchwil marchnad, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan arall.
Mae’r wefan hon yn defnyddio dolenni i ac o wefannau adrannau llywodraeth a chyrff eraill. Rydym am ei gwneud hi’n glir bod y polisi preifatrwydd hwn (sef yr un yr ydych yn ei ddarllen) yn perthyn i wefan busnes.cymru.gov.uk yn unig.